{ko: pan ddiwreiddied y llwyn bedw}
1 Madog ap Gruffydd wyddaer
2 medri aur glod mydr arf glaer
3 cynnydd morda a Rydderch
4 canwyr a synwyr y serch
5 cywirach oeddyd na neb
6 cyweirdant y cywirdeb
7 ti a ddeuthost at ddavydd
8 ap Gwilym a gwawd rym rydd
9 ai cof oll yn cyvaillach
10 an cwyn am y bedwlwyn bach
11 amav r wyfi i ddiosg
12 eb ymladd eb ladd eb losg
13 o eiddig oervel iddaw
14 ai gaib wb ai raib ai raw
15 afraid yt ddala trymvryd
16 am bren na bedwen or byd
17 dra attai dduw y celyn
18 nis llysg ag nis diysg dyn
19 ag er a ddel o ddrychin
20 ni bydd llwm na chrwm na chrin
21 ti a gwynyd dioer yn llwyr
22 be darffai yt byd orffwyr
23 [258] a ddarvu ym mav lym lid
24 nod mwy ofn neud mav ofid
25 nid oedd ym oddiddanwch
26 na dyhuddiant trachwant trwch
27 na cherdd ar vedwen wen wiw
28 ond eos loewdlos lwydliw
31 synna arnei os gwely
32 ystofwraig mydr gaer hydr hy
33 serchog y can dan y dail
34 salm wiw is helm o wiail
35 deolwraig arvynaic vwyn
36 da ffithlen mewn diffeithlwyn
37 cloch aberth y serchocion
38 clear chweg a theg yw i thon
39 bangaw vydd i hvn bengerdd
40 ar vlaen y wialen werdd
41 boreuwraig serch verch virain
42 burddu drem vwch byrddau drain
43 chwaer Gyhelyn befrddyn bach
44 chwibanogl chwe buanach
45 meistres organau maesdran
46 na chant or cildant y can
47 ni adewis yngwynedd
48 er pan aeth ond waethwaeth wedd
49 lladrones bach llwyd ronell
50 llatai ni weddai vn well
51 poed ar ddor y pilori
52 Amen vyth o mynafi
53 y doter gynniver vn
54 ai ditiodd ynghoed Evtvn
55 yn y vro tra vynno trig
56 yno deil y nadolig
57 bydd serchocaf lle y bo
58 da gutorn duw ai gato
Dauid ap gwilim
ychwanegwyd y tri chwpled hyn ar ochr y ddalen ond nid yw hi'n
glir a ydynt yn perthyn i'r testun ai peidio:
rhoi vy mryd ar vy rhiain
i mi dan racdal a main
cyd bo digrif gan brifardd
garu hen ddyn gyver hardd
gwynvyd ym oedd er gwenv
goris [ ] oi serch [ ]